Mwynhewch y dirwedd
Mae digon i’w wneud yma, a hynny ar gyfer pobl o bob oed. Mae’n anodd dod o hyd i unman all guro’r ardal hon am ei dewis o deithiau cerdded arfordirol a mewndirol, y beicio, y pysgota a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ar hyd yr arfordir, o orweddian ar ein traethau digyffwrdd i roi cynnig ar Gaiacio Môr ac Arfordiro (Coasteering).
Harddwch Naturiol Aberteifi a Dyffryn Teifi
Amgylchynir Aberteifi gan forluniau a thirweddau hardd i ryfeddu sydd o safon amgylcheddol eithriadol. Mae’r dref wedi’i lleoli yn y canol ac oddi yma gellir mwynhau morlin Treftadaeth godidog Bae Ceredigion sy’n ymestyn tua’r gogledd i ranbarth Ceredigion ac i’r de i gyfeiriad Sir Benfro.
Mae yma filltiroedd di-ben-draw o arfordir tawel, digyffwrdd gyda childraethau tywodlyd diarffordd, traethau hygyrch arobryn, clogwyni tyrog sy’n frith o flodau ar ddechrau’r haf, ac ynysoedd sy’n gorwedd fel gemau mewn dyfroedd gloyw – dyfroedd sy’n gartref i heigiau o ddolffiniaid, llamhidyddion a morloi.
Yn y mewndir, mae tirwedd syfrdanol Dyffryn Teifi, sydd dan fantell trwch o goed, yn gartref i fywyd gwyllt dirifedi, gan gynnwys dwrgwn. Mae hefyd yn nefoedd i bysgotwyr gan fod Afon Teifi wedi ennill ei lle fel yr afon orau yn Ewrop am frithyll môr neu sewin.