Cerdded yn ardal Aberteifi
TAITH GERDDED SAIN AM DDIM O AMGYLCH TREF ABERTEIFI
Datgelu hanes cudd tref Aberteifi gyda theulu a ffrindiau ar daith gerdded sain. Mae’r daith gerdded sain am ddim hon a ddarperir gan Cardigan Walks yn cloddio i hanes cyfoethog Aberteifi o’i sefydlu yn 1110, gan rannu straeon tirnodau amlwg ledled y dref. Dros y daith, byddwch yn deall y dref a’r bobl a’r digwyddiadau sy’n effeithio ar yr ardal yn well.
Ewch i dudalen Teithiau Aberteifi i wrando ar y daith sain. Mae dros 50 munud o sain i wrando arno a 10 tirnodau i ymweld â nhw.
LLWYBRAU CERDDED ARDAL ABERTEIFI
Erbyn hyn, gall cerddwyr fwynhau cyfres o deithiau cerdded cylchol gafodd eu datblygu’n ddiweddar yn ardal Aberteifi. Mae’r teithiau hyn yn amrywio o bedair milltir a hanner hyd chwe milltir a hanner o hyd ac yn arwain drwy nifer o lecynnau prydferth yn Nyffryn Teifi a’r arfordir.
Mae ardal dangnefeddus Aberteifi, gyda’i hamrywiaeth o dirweddau arfordirol, bryniog, coediog a gwledig, yn cynnig dewis o deithiau cerdded amrywiol. Gallwch ddewis mynd am dro bach hamddenol ar hyd lonydd tawel cefn gwlad neu fynd ar deithiau cerdded hir dros lwybrau gwyllt ar ben clogwyni.

Mae tref Aberteifi ei hun wedi’i lleoli nid nepell o ben gogleddol Llwybr Arfordir Sir Benfro a phen deheuol Llwybr Arfordir Ceredigion, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gwblhau. Saif y dref ar lan Afon Teifi ac mae’r teithiau cerdded yn ymestyn o’r dref, tua’r môr hyd at yr aber, a thua’r tir i mewn i ddyffryn coediog yr afon. Ychydig filltiroedd i’r de o’r dref mae Mynyddoedd y Preselau, gyda’u golygfeydd eang o rostir agored.
Llandudoch (St Dogmaels) ar lannau deheuol Afon Teifi, rhyw filltir o Aberteifi, yw man cychwyn Llwybr Arfordir Sir Benfro. I gyfeiriad Traeth Poppit, mae’r llwybr yn dringo uwchlaw traethellau a morfa heli aber Afon Teifi sy’n gartref i amrywiaeth helaeth o adar.
Yn Nhraeth Poppit, mae’r llwybr yn dringo tuag at Benrhyn Cemaes ac yno cewch olygfeydd ysblennydd i gyfeiriad y gogledd ar draws Bae Ceredigion ac i’r de ar hyd arfordir Sir Benfro. Wrth fynd tua’r de i Drefdraeth, mae’r llwybr yn dilyn yn agos at ymyl clogwyni tolciog lle mae haenau (strata) gwyrdroëdig ysgubol i’w gweld.
Ar hyd yr arfordir tua’r gogledd ceir cyfres o draethau bychain. Traeth bychan, diarffordd yw Mwnt – safle sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a lle da i wylio dolffiniaid. Mae pentrefi Aberporth, Tresaith a Llangrannog yn gartref i gymunedau bychain o bobl.
Wrth ymyl Afon Teifi, i’r de o’r dref, mae cartref Canolfan Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru a llwybr troed yn cysylltu’r ddau fan. Ardal eang o welyau cors yw’r parc ac yma ceir nifer o guddfannau lle gallwch wylio amrywiaeth helaeth o adar a mamaliaid. Mae’r afon yn gartref i ddyfrgwn a phan fydd y llanw’n isel daw llwynogod i’r fflatiau llaid weithiau i chwilio am sborion. Yn y berfeddwlad y tu hwnt i’r parc, mae’r afon yn llifo i geunant coediog, cul a gallwch ddilyn y llwybr troed sy’n arwain ar hyd y ceunant bron yr holl ffordd i bentref Cilgerran. Yn y pentref, uwchlaw’r ceunant, gwelir olion castell rhyfeddol sy’n dyddio o’r 12fed ganrif. Mae’r pentrefwyr yn dal i ddefnyddio cwryglau i bysgota am eogiaid yn yr afon. Mae’r llwybr yn ymestyn ar hyd glan yr afon o Gilgerran hyd at yr hen bont yn Llechryd lle gwelwch y ceunant yn ymagor yn orlifdir llydan.
Tua 10 milltir i’r de o Aberteifi mae Mynyddoedd y Preselau – cadwyn helaeth o rostir agored yn cyrraedd uchder o dros 500m – sy’n enwog fel safle gwreiddiol y cerrig a ddefnyddiwyd i godi Côr y Cewri (Stonehenge). Mae rhwydwaith o lwybrau traed yn croesi’r bryniau hyn.
Mae Aberteifi a’r ardal gyfan yn blethwaith o lonydd dwfn, caeedig sy’n gyforiog o flodau gwyllt gyda rhwydwaith o lwybrau traed yn eu cysylltu. Fel y tystia nifer o feini hirion Neolithig (2500-1400 CC) sydd i’w gweld ar draws gogledd Sir Benfro, y cestyll Normanaidd diweddar yn Aberteifi a Chilgerran a’r abaty yn Llandudoch, mae i’r ardal hanes cyfoethog. Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, adeiladwyd nifer fawr o blastai yn rhan isaf dyffryn Teifi gan dirfeddianwyr cyfoethog, ac mae pobl yn dal i fyw mewn sawl un o’r rhain ond prin yw’r rhai a gadwodd eu statws gwreiddiol.