Llwybr Afon Teifi
1 O ganol y dref, ewch i gyfeiriad y ffordd osgoi sydd ar gyrion y dref, gan ddilyn y palmant llydan ar yr ochr dde. Mwynhewch y golygfeydd godidog o’r warchodfa natur – cadwch olwg am hwyaid a chrehyrod (herons) sy’n gaeafu. Ar ôl rhyw bum munud, cerddwch i lawr rhes o risiau ar yr ochr dde i chi, a cherddwch dan bont y ffordd osgoi.
2 Wedi i chi fynd trwy’r glwyd, byddwch wedi cyrraedd gwarchodfa natur Corsydd Teifi. Cadwch olwg am niferoedd mawr o adar rhydio a hwyaid sy’n gaeafu, e.e. chwiwellau (wigeons), corhwyaid (teals) a hwyaid pengoch (pochards), yn ogystal â morfrain (cormorants), crehyrod a giachod (snipes).
3 Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr wrth ymyl yr afon, gan edrych i gyfeiriad y brwyn am deloriaid (warblers) ac yn eu plith benddu’r brwyn (reed bunting) – aderyn trawiadol sydd â phen du a choler gwyn nodedig. Gwrandewch am yr aderyn gwibiog hwnnw, telor Cetti (Cetti’s Warbler) ac edrychwch am wyddau’n hedfan uwch eich pen. Arhoswch wrth ymyl y tair cuddfan sydd ar eich llwybr – mae’r rhain yn edrych dros yr aber. Mae’r ffordd yn arwain drwy goetir, felly cadwch eich llygaid ar agor am ddryw bach y coed (tiny goldcrest) a’r dryw ben aur (brightly crested goldcrest) a choch y berllan fron-goch (red-breasted bullfinch)
4 Yn y fan lle mae’r ffordd yn ymuno â’r prif lwybr i mewn i’r warchodfa, trowch i’r chwith tuag at ganolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Ar ôl rhyw funud, trowch i’r dde yn y fan hon gan ddilyn Llwybr y Wiwer, a chadwch eich llygaid ar agor am weilch glas (sparrowhawks), y gnocell fraith fwyaf (great spotted woodpecker) ac adar bach eraill y goedwig fydd i’w gweld rhwng y coed. Mae’n bosib hefyd y gwelwch geirw yn y caeau. Dilynwch y saethau melyn ar hyd y ffordd hyd nes y bydd y llwybr yn gadael tir yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ac yna’n cyrraedd y ffordd ar ôl rhyw 15 munud. Trowch i’r dde yn y fan hon, ac eto wrth y gyffordd nesaf, gan groesi nant fechan a mynd heibio i nifer o dai. Wrth i chi fynd ymhellach i mewn i bentref Cilgerran, chwiliwch am arwyddion castell Cilgerran ac ewch ar hyd llwybr bychan trwy’r goedwig. Bydd arwyddion yn eich cyfeirio oddi yma i’r Ganolfan Gwryglau. Mae’n werth aros i gael golwg ar y castell bach ond hynod drawiadol hwn o’r 12fed ganrif, ac mae’n bosib y gwelwch nifer o ystlumod lleiaf (pipistrelle bats) yn y fan hon wrth iddi ddechrau nosi.
5 Mae’r ganolfan gwryglau yn lle da i aros os ydych yn bwriadu mynd yn eich ôl drwy ddilyn camau 4 i 1. Yn yr haf, mae’n werth gofyn beth yw dyddiad Gŵyl Cilgerran a’r rasys cwryglau blynyddol os hoffech ychwanegu ychydig hwyl at eich taith gerdded! Sylwch: ar ôl cyfnod hir o law, efallai y bydd yn amhosib cerdded ar hyd rhai mannau yn y rhan nesaf o’r daith.
6 Dilynwch yr arwyddion am bentref Llechryd am ryw ddwy filltir. Mae’r llwybr hwn ar hyd glan yr afon yn un hawdd ei gerdded, ac efallai y gwelwch chi drochwyr (dippers), siglennod llwyd (grey wagtails), crehyrod (herons), glas y dorlan (kingfisher) neu ddau a hwyaid. Os ydych chi’n gynnar neu’n ddigon tawel, mae’n bosib y gwelwch chi ddyfrgi hyd yn oed. Mae’r dryw pen aur (goldcrest) y titw tomos las (blue-tit) a’r llinos (finche) yn niferus, yn ogystal â grwpiau swnllyd o adar gleision cynffon hir (long-tailed tits), yn eu pinc a gwyn digamsyniol, ynghanol y goedwig gymysg.
7 Wrth i’r llwybr ddynesu at Llechryd, byddwch yn mynd heibio i Westy Ty Hammet, plasty Sioraidd trawiadol sy’n dyddio nôl i 1795. Gyferbyn ag adeiladau’r stablau ar hyd y llwybr, fe welwch gyfres o adeiladau cerrig yn yr afon, adeiladau sydd bellach yn fan ymgasglu i hwyaid gwyllt (mallards), siglennod (wagtails) ac adar bychain amrywiol. Maglau eogiaid oedd y rhain ar un adeg, a chanrifoedd yn ôl byddai’r pysgod hyn yn cael eu storio mewn ogof fechan islaw’r llwybr dan eich traed.
8 Croeswch Bont Llechryd i edmygu golygfeydd o’r afon a chadwch eich llygaid ar agor am grehyrod a glas y dorlan, yn ogystal â’r wennol ddu a gwenoliaid o wahanol fath sy’n ymgasglu eu cannoedd adeg yr haf. Yn y fan hon, gallwch naill ai ddychwelyd i Aberteifi ar hyd yr un ffordd ag y daethoch (camau 6 i 1) neu droi i’r chwith ar hyd y briffordd sy’n arwain i’r pentre’ er mwyn dal bws. Mae’r dafarn – The Carpenter’s Arms – yn cynnig prydau bwyd rhwng 11.30yb tan 2.00yp ac eto o 5.40 – 8.30 gyda’r nos. Mae swyddfa bost a garej hefyd ymhellach ymlaen yn y pentref.